Bydd  Eos, y mudiad sy’n ceisio sicrhau bod cerddorion Cymraeg a Chymreig yn derbyn rhagor o arian am ddarlledu eu caneuon, yn cynnal dau gyfarfod gyda’u haelodau ym mis Chwefror.

Bydd y ddau gyfarfod yn cael eu cynnal ar Chwefror 5 yng Nghaerdydd  ac ar Chwefror 8 yng Nghaernarfon.

Mae Eos yn ystyried ar hyn o bryd a ddylen nhw ddefnyddio canolwr annibynnol  i ddatrys yr anghydfod gyda’r BBC.

Dywedodd y BBC yr wythnos diwethaf eu bod yn fodlon talu am ganolwr er mwyn dod i gytundeb.

Mae Golwg360 wedi cael ar ddeall mai hyn fydd prif ystyriaeth y ddau gyfarfod.

Does gan Radio Cymru mo’r hawl i chwarae nifer fawr o ganeuon Cymraeg  tra bod yr anghydfod yn parhau, gan fod nifer fawr o gerddorion wedi tynnu’r hawl oddi wrth y BBC bythefnos yn ôl.

Roedd y canwr Bryn Fôn yn y Senedd yr wythnos diwethaf er mwyn trafod y sefyllfa gydag Aelodau’r Cynulliad.

Dywedodd ar y pryd nad oedd yn ffyddiog y byddai cytundeb yn digwydd yn y dyfodol agos, ac y gallai’r sefyllfa barhau am hyd at chwe wythnos arall.

“Os ydan ni’n gorfod cynnal cyfarfod cyffredinol brys er mwyn cael mandad gan ein haelodau, fe allai gymryd chwe wythnos. Felly, fe all y llanast yma barhau ar Radio Cymru am chwe wythnos arall,” meddai.