Mae’r eira yn parhau i beri trafferthion mewn rhannau o Gymru heddiw, ac mae rhybudd melyn gan y Swyddfa Dywydd yn parhau mewn grym yn ystod y bore yn neheudir Cymru.
Ar ôl cawodydd eira yn Sir Benfro ddoe mae saith o ysgolion yng ngogledd y sir wedi cau am y dydd, gan gynnwys Ysgol Gyfun y Preseli yng Nghrymych.
Roedd 40 o ddisgyblion yr ysgol honno ar fws ddoe a lithrodd oddi ar yr heol i mewn i glawdd ger Maenclochog. Ni chafodd unrhyw un eu hanafu.
Yn Sir Gaerfyrddin mae 16 o ysgolion wedi cau heddiw gan gynnwys ysgolion uwchradd y Gwendraeth, Maes yr Yrfa a Dyffryn Taf. Ond mae’r ysgolion hynny ar agor i ddisgyblion sy’n sefyll arholiadau allanol.
Mae nifer o ysgolion eraill Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu agor eu gatiau yn hwyrach, am 10 o’r gloch, o achos yr eira.
Dyma’r seithfed diwrnod o eira i rai ardaloedd yn ne Cymru ond mae disgwyl tywydd ychydig yn fwynach yfory a dylai’r eira ddadlaith yn araf bach.