Senedd Sbaen
Mae diweithdra yn Sbaen wedi cynyddu i 26.02% gyda bron i chwe miliwn o bobl bellach yn ddi-waith.
Yn ôl Sefydliad Ystadegau’r wlad roedd cynnydd o 1% yn nifer y di-waith rhwng y trydydd a’r pedwerydd chwarter y llynedd.
Roedd 691,700 o bobl wedi colli eu swyddi’r llynedd.
Mae Sbaen ynghanol ei hail ddirwasgiad o fewn tair blynedd yn dilyn methiant y sector eiddo yn 2008.
Er gwaetha ymdrechion y llywodraeth geidwadol i gyflwyno toriadau mewn gwariant a chyflogau a diwygiadau ariannol, ychydig iawn o arwyddion sydd bod yr economi yn gwella.