Mae Heddlu Gwent yn cynnal ymchwiliad ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yng Nghaerffili ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw tua 4:42yh brynhawn dydd Mercher wedi i’r corff gael ei ddarganfod yn Nol yr Eos yn Mornington Meadows.

Roedd swyddogion a pharafeddygon wedi cael eu galw i’r safle, ond roedd y dyn wedi marw. Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn swyddogol ond credir ei fod yn ei 50au.

Mae’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un anesboniadwy ar hyn o bryd nes eu bod yn cael canlyniadau archwiliad post mortem.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu drwy ffonio 101.