Yr Unol Daleithiau yw’r diweddara i roi’r gorau i hedfan awyrennau Boeing 787 yn dilyn problemau gyda’r batris.

Bu’n rhaid i Boeing 787 lanio ar frys yn Japan ddoe ac mae profion yn dangos bod ’na risg y gallai’r batri achosi tân ar yr awyren.

Roedd dau o gwmnïau awyrennau mwyaf Japan – Nippon Air a Japan Airlines – wedi rhoi’r gorau i hedfan yr awyrennau ddoe ar ôl i’r problemau ddod i’r amlwg.

Y 787, sy’n cael ei hadnabod fel y Dreamliner, yw awyren newydd Boeing ac mae’n dibynnu’n helaeth ar ei llwyddiant.