Fe fydd achos llys yn erbyn dyn a yrrodd ei gar ddwywaith i fyny at gopa’r Wyddfa yn cael ei gynnal heddiw.

Mae Craig Anthony Williams wedi ei gyhuddo o yrru’n beryglus ar ddau achlysur ym mis Medi 2011.  Mae Williams, 40, o Cheltenham, yn gwadu’r cyhuddiadau.

Fe yrrodd Williams ei gerbyd 4×4 i fyny llwybr yr Wyddfa ar 3 Medi 2011, ac oherwydd y tywydd garw, fe adawodd y car wrth ymyl y rheilffordd.  Bu’n rhaid i dimau weithio am 3 awr i symud y Vauxhall Frontera ar gerbyd trên a’i gludo i lawr y mynydd.

Dywedodd Williams yn mewn gwrandawiad cynharach bod gyrru i fyny’r mynydd “yn un o’r 50 o bethau roedd eisiau gwneud cyn marw.”  Ond cyfaddefodd ei fod yn sylweddoli pa mor “wirioneddol hurt” yr oedd wedi bod.

Mae Williams wedi methu ag ymddangos o flaen llys ddwywaith ers y digwyddiad, ond bydd yr achos yn cael ei glywed yn Llys y Goron Caernarfon heddiw er nad yw’n bresennol.