Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood wedi gofyn i’r Prif Weinidog, Carwyn Jones ddatgan a yw’n cefnogi’r cynlluniau i ad-drefnu Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Cafodd cynlluniau i ganoli gwasanaethau’r bwrdd iechyd eu cymeradwyo ddoe yn dilyn ymgynghoriad.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei rhedeg gan nyrsys, a bydd unedau man anafiadau  yn Ninbych-y-Pysgod a De Penfro, ac ysbyty cymunedol Mynydd Mawr yn y Tymbl yn cau.

Un o’r argymhellion mwyaf dadleuol yw symud uned fabanod newydd-anedig Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eisoes eu bod nhw wedi gwrando ar farn y cyhoedd.

Dywedodd Leanne Wood: “Yn dilyn y cyhoeddiad  gan fwrdd iechyd lleol Hywel Dda am ad-drefnu ysbytai, mae’r broses fwy neu lai wedi’i chwblhau ar lefel leol. Mae AS ac AC Llafur yr ardal yn agored feirniadol o’r cynigion yn Llanelli.

“Mae gwahaniaeth barn glir rhwng ymgynghorwyr sy’n gweithio yn Ysbyty’r Tywysog Philip, a’r bwrdd iechyd lleol.

“Mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn dadlau y dylai Llanelli gadw gwasanaeth brys llawn.

“Un o’r pryderon mawr i lawer o bobl yw faint o amser mae’n cymryd i fynd o gartref rhywun i’r ysbyty.

“Mae hyn yn peri pryder mawr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ond hefyd mewn rhannau o Gymru lle nad oes cymaint o bobl yn berchen car a bod cludiant cyhoeddus yn gyfyngedig – ac yn enwedig pan fyddwn yn gorfod ymdopi gydag eira a llifogydd, a ffyrdd wedi cau.

“Mae bywydau mewn perygl yma.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog nad yw’n bwriadu gwneud sylw pellach am yr ad-drefnu ar hyn o bryd.