Mae dau gwmni awyrennau yn Japan wedi rhoi’r gorau i hedfan awyrennau Boeing 787 er mwyn cynnal profion diogelwch.

Daeth y cyhoeddiad gan Nippon Airways oriau’n unig ar ôl i awyren gael ei gorfodi i lanio ar frys ym maes awyr Takamatsu yng ngorllewin Japan.

Mae Japan Airlines hefyd wedi rhoi’r gorau i hedfan ei hawyrennau 787.

Dyma’r ergyd ddiweddaraf i awyren newydd Boeing, sy’n cael ei hadnabod fel y Dreamliner.

Ers ei lansio, mae’r awyren wedi wynebu nifer o broblemau gan gynnwys tanwydd yn gollwng.