Mae Prif Weithredwr CBAC, y corff sy’n gyfrifol am oruchwylio arholiadau yng Nghymru, wedi beirniadu’r ffordd mae’r Llywodraeth am ei ddisodli gyda chorff arall.

Mewn llythyr at Christine Chapman AM, Cadeirydd Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y Cynulliad, mae Prif Weithredwr CBAC  Gareth Pierce yn dweud y gall Llywodraeth Cymru wneud niwed mawr i oruchwyliaeth cymwysterau yn y dyfodol os nad ydyn nhw’n ofalus.

Ers iddyn nhw orfod ail farcio papurau arholiad TGAU Saesneg y  llynedd, mae dyfodol CBAC wedi bod yn ansicr.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg Leighton Andrews cyn y Nadolig ei fod am greu corff newydd, Cymwysterau Cymru, i ddod yn ei le.

Dywedodd Gareth Pierce bod angen diffinio cyfrifoldebau Cymwysterau Cymru cyn dileu CBAC a bod angen i’r newid fod yn raddol rhag effeithio addysg pobl ifanc Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:  “Yn anffodus, mae’n ymddangos bod CBAC yn gwrthod wynebu’r hyn sydd am ddigwydd. Bydd Cymwysterau Cymru yn cael ei sefydlu ar y fodel Awdurdod Cymwysterau’r Alban.

“Naill ai y bydd CBAC yn chwarae rhan adeiladol yn y trafodaethau hyn, neu bydd rhaid i’r Llywodraeth ddarganfod ffordd arall o weithredu.”