Llys Hawliau Dynol Ewrop
Mae un o weithwyr British Airways wedi ennill achos llys arwyddocaol heddiw, wedi i banel benderfynu bod ganddi hawl i wisgo cadwyn gyda chroes Gristnogol arno yn ei gwaith.

Cafodd Nadia Eweida,  60,  o Twickenham yn Llundain, ei hanfon adref o’i gwaith yn 2006 am wisgo’r gadwyn, gan ei fod yn torri rheolau gwisg y cwmni awyrennau.  Ond honnodd Eweida mai mynegiad personol o’i chrefydd oedd y gadwyn, ac felly y dylai hi gael ei gwisgo.

Aeth a’r achos i dribiwnlys ym Mhrydain ond gwrthodwyd derbyn bod BA wedi gwahaniaethu yn erbyn Nadia Eweida ar sail ei ffydd, penderfyniad a gafodd ei ailadrodd yn y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys.

Ond heddiw, yn Llys Hawliau Dynol Ewrop, penderfynodd y panel bod British Airways wedi ymyrryd â hawl Nadia Eweida i ryddid crefyddol.

Dywedodd yr adroddiad: “Roedd croes Ms Eweida yn fychan, ac ni fuasai yn amharu ar ei hymddangosiad proffesiynol.

“Doedd dim tystiolaeth bod gwisgo unrhyw eitemau crefyddol eraill, fel hijab neu dyrban, gan weithwyr eraill wedi cael effaith negyddol ar bortread proffesiynol British Airways.”

Yn dilyn y penderfyniad dywedodd Nadia Eweida ei bod yn hapus bod hawliau Cristnogol wedi eu cyfiawnhau.  Aeth hi yn ôl i weithio ym maes awyr Heathrow yn 2007, ond dywedodd ei bod yn falch i’r llys gydnabod ei bod wedi profi “pryder, rhwystredigaeth a gofid” dros y mater.