Mae dyfeisiwr y prawf anadl, sy’n cael ei ddefnyddio i ddal pobl sy’n yfed a gyrru, wedi marw yn 77 oed.

Cafodd y peiriant ei ddyfeisio gan y Dr Tom Parry Jones o Borthaethwy ym 1974.

Roedd yn Gymrawd ym Mhrifysgol Bangor, a chafodd cronfa ei sefydlu ganddo i annog pobl ifanc i fentro i feysydd gwyddoniaeth a thechnoleg.

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Bangor yn un o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan ddefnyddio arian o’r gronfa.