Mae ystadegau newydd yn dangos bod myfyrwyr sy’n derbyn addysg bellach yng Nghymru ddim yn gwneud cystal â myfyrwyr yn Lloegr.

Yn ôl ffigurau Asiantaeth Ystadegau Addysg Bellach roedd 61% o fyfyrwyr ym mhrifysgolion Cymru wedi ennill gradd dosbarth cyntaf neu 2:1 yn 2012.  Dyma yw’r canran lleiaf drwy wledydd Prydain.

Prifysgolion Yr Alban berfformiodd orau, wrth i 72% o fyfyrwyr ennill graddau dosbarth cyntaf  neu 2:1 y llynedd, ac yn Lloegr roedd yn 66% a 65% yng Ngogledd Iwerddon.

Er mai canran graddau uwch Cymru yw’r isaf, mae’r ganran o fyfyrwyr sy’n derbyn graddau uwch drwy’r DU i gyd yn parhau i gynyddu.  Cafodd 66% o fyfyrwyr addysg bellach radd dosbarth 1 neu 2:1 yn 2012, ffigwr sydd wedi bod yn cynyddu yn raddol ers 2007.