Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi heddiw y bydd cyfraddau llog yn aros yr un fath yn 0.5%.
Mae’n debyg y bydd Pwyllgor Polisi Ariannol (MPC) y banc yn aros i weld beth fydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â chyfraddau llog.
Roedd yr economi wedi llithro’n ôl i’r coch yn chwarter olaf 2012.
Mae’r Banc wedi cadw cyfraddau llog yn 0.5% ers mis Mawrth 2009.