Mae Aelod Seneddol Maldwyn wedi rhybuddio fod yr anghydfod dros ddarlledu caneuon ar Radio Cymru yn “drychineb” i’r iaith Gymraeg.

Dywedodd y Ceidwadwr Glyn Davies yn ei flog fod sefyllfa bresennol Radio Cymru “fel gwylio ffrind annwyl sydd wedi ei daro’n ddifrifol wael.”

“Fe fydd llawer o bobol, fel fi, yn ysgwyd eu pennau mewn penbleth ar yr hyn sy’n ymddangos fel difrod sydd wedi ei greu ganddyn nhw eu hunain,” meddai Glyn Davies.

Mae’r BBC ac Eos, y corff hawliau darlledu Cymraeg newydd, wedi methu â chytuno ar daliadau i gerddorion sy’n golygu nad yw Radio Cymru yn cael darlledu o blith 30,000 o ganeuon Cymraeg.

Bydd cerddoriaeth Saesneg a chlasurol yn cael ei darlledu ar Radio Cymru i lenwi’r bwlch.

Dywed Glyn Davies fod yr anghydfod yn drychineb i gerddorion Cymraeg ac i Radio Cymru ei hun.

“Mae Radio Cymru yn derbyn £13.5 miliwn gan y drwydded, ac mae ganddi gynulleidfa wythnosol o 150,000 – ac nid yw hyd yn oed yn chwarae cerddoriaeth Gymraeg, union bwynt ei bodolaeth. Colli/colli/colli,” meddai’r Ceidwadwr yn ei flog.

Dafydd Iwan: ‘Gall fod yn ergyd farwol i Radio Cymru’

Mae Dafydd Iwan, sy’n rheolwr gyfarwyddwyr ar gwmni Sain, wedi dweud y “gall y sefyllfa bresennol fod yn ergyd farwol.”

“Gallai Radio Cymru golli rhan helaeth o’i gynulleidfa am byth,” meddai.

“Dyna pam y mae’n rhaid i awdurdodau’r BBC, gan gynnwys y Llywodraethwyr, symud yn gyflym i gyfarfod gofynion cerddorion Cymru mewn modd anrhydeddus.

“Mae’r trafod diweddar wedi profi’r fantais o gael awdurdod darlledu Cymreig, sef S4C, sy’n deall y cyd-destun Cymreig, rhagor corff Prydeinig sy’n cael ei reoli o Lundain, sef y BBC,” meddai Dafydd Iwan.

Mae Radio Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn gorfod cwtogi dwy awr y dydd ar ddarllediadau’r orsaf ac mae Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC dros Gymru, Elan Closs Stephens, wedi dweud fod “y drwg y gallai newid sylweddol ei gael ar ein cynulleidfaoedd yn bryder mawr iawn” iddi.

“Does neb yn ennill o weithredu fel hyn, yn sicr nid cynulleidfa Radio Cymru,” meddai Elan Closs Stephens.

Mae disgwyl i’r trafodaethau rhwng Eos a’r BBC barhau yn ystod yr wythnos yma.