Mae Facebook wedi cael ei orfodi i analluogi system negeseuon ar ôl i fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth ddarganfod nam yn y system a oedd yn ei alluogi i ddarllen negeseuon pobl eraill.
Cafodd y system ei sefydlu ar Facebook Stories i ganiatáu i ddefnyddwyr ysgrifennu negeseuon i’w ffrindiau a fyddai’n cael eu hanfon yn awtomatig ar ôl hanner nos.
Ond roedd y myfyriwr Jack Jenkins o Brifysgol Aberystwyth wedi darganfod bod modd newid yr Url ar ôl anfon neges, gan ei alluogi i ddarllen neu ddileu negeseuon preifat defnyddwyr eraill.
Roedd wedi blogio ynglŷn â’r nam gan annog pobl i beidio â dileu negeseuon. Fe ymatebodd Facebook drwy analluogi’r system.
Dywedodd llefarydd ar ran Facebook bod y system bellach wedi cael ei newid ac yn gweithio’n iawn.
Mae Facebook Stories yn safle ar wahân i’r prif safle Facebook ac nid yw’n effeithio negeseuon ar Facebook.