Ian Watkins
Mae prif leisydd y grŵp Lostprophets, Ian Watkins, wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ar gyhuddiad o droseddau rhyw.

Cafodd Ian Watkins, 35, o Bontypridd ei arestio ynghyd a dwy ddynes arall yn gynharach y mis hwn.

Yn ogystal â chyhuddiad o gynllwynio i dreisio plentyn o dan 13 oed, mae Watkins hefyd yn wynebu pum cyhuddiad arall o gam-drin rhywiol.

Mae’r cyhuddiadau eraill yn cynnwys meddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant.

Mae dynes 24 oed o Bedford hefyd wedi ei chyhuddo o’r un troseddau ag ef, tra bod dynes 20 oed o Doncaster wedi ei chyhuddo o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant, ond nid o gynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda merch dan 13. Ni ellir cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol.

Mewn gwrandawiad cynharach yn Llys Ynadon Caerdydd, dywedodd cyfreithwyr Watkins y byddai’r canwr yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa dros gyfnod y Nadolig, ynghyd a’r ddwy ddynes arall.

Heddiw roedd Watkins a’r ddwy ddynes wedi ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd drwy gyswllt fideo.

Fe wrthodwyd cais am fechnïaeth ac fe fydd Watkins yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn ymddangos gerbron y llys eto ar 11 Mawrth er mwyn cyflwyno ple.