Ian Watkins
Mae disgwyl i brif ganwr y Lostprophets ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw ar ôl cael ei gyhuddo o droseddau rhyw.

Yn gynharach y mis hwn cafodd Ian Watkins, 35, o Bontypridd ei gadw yn y ddalfa ynghyd â dwy ddynes arall.

Mae Watkins wedi ei gyhuddo o gynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda merch dan 13 oed ac o bedwar cyhuddiad o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant.

Mae dynes 24 oed o Bedford hefyd wedi ei chyhuddo o’r un troseddau ag ef, tra bod dynes 20 oed o Doncaster wedi ei chyhuddo o feddu ar, neu ddosbarthu, lluniau anweddus o blant, ond nid o gynllwynio i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda merch dan 13.