Mae’r BBC wedi cyhoeddi newidiadau i amserlen Radio Cymru os na fydd cytundeb rhwng y gorfforaeth ac Eos ynglŷn â breindaliadau i gyfansoddwyr a cherddorion Cymraeg.
Mae disgwyl i’r trafodaethau rhwng Eos, y corff hawliau darlledu cerddorion Cymraeg, a’r BBC barhau heddiw. Roedd S4C wedi dod i gytundeb gydag Eos dros y penwythnos.
Dywedodd Golygydd Radio Cymru Lowri Davies ar y Post Cynta bore ma: “Rydan ni i gyd eisiau cyrraedd cytundeb ond mae’n bwysig ein bod ni’n meddwl am gynllun rhag ofn nad oes cytundeb.”
Mae’r cynlluniau, a gyhoeddwyd heddiw, yn cynnwys cwtogi dwy awr ar ddarllediadau Radio Cymru – gan ddechrau am 6.30yb gyda’r Post Cynta, yn lle 5.30yb, a gorffen am 11yh yn lle hanner nos. Bydd hefyd yn golygu y bydd cerddoriaeth Saesneg yn cael ei darlledu ar Radio Cymru os na ellir datrys yr anghydfod.
‘Cynnal y safon’
Ychwanegodd Lowri Davies mai cynnal y safon a’r amrywiaeth yw’r flaenoriaeth “ond fedrwn ni ddim gwadu’r ffaith bod cerddoriaeth yn rhan ganolog ac yn rhan bwysig o’r gwasanaeth.
“Dy’n ni ddim yn dymuno chwarae traciau Saesneg ond rydan ni’n mynd i orfod chwarae rhai,” meddai.
Ar 1 Ionawr bydd hawliau darlledu ar gyfer y 297 o gyfansoddwyr a 34 o gwmnïau cyhoeddi cerddoriaeth sy’n aelodau o Eos yn cael eu trosglwyddo o’r PRS i Eos.
Mae’r cyfansoddwyr a’r cyhoeddwyr Cymraeg yn galw am daliad uwch na’r 50c y funud sydd ar gael ar hyn o bryd.
Os na fydd cytundeb gyda’r BBC mae’n golygu na fydd Radio Cymru yn cael darlledu dros 30,000 o ganeuon Cymraeg.
‘Dydy o ddim yn gynnig hael’
Dywedodd Prif Weithredwr Eos, Dafydd Roberts, ar y Post Cynta bore ma eu bod yn croesawu penderfyniad y BBC i ddod nol at y bwrdd trafod a’u bod wedi cael “trafodaethau rhesymol a chall gyda S4C”. Ond roedd yn gwadu honiadau’r BBC eu bod wedi gwneud “cynnig hael.”
“Dydy o ddim yn gynnig hael o gwbl – mae’n rhaid edrych ar lle mae’r BBC yn rhoi ei gwerthoedd a sut mae nhw’n gwario arian cyhoeddus,” meddai.
Roedd hefyd yn feirniadol o’r BBC am drafod y mater gyda’r wasg pan ddaeth y trafodaethau i ben cyn y Nadolig.
Wrth ymateb i’r feirniadaeth nad oedd unrhyw un yn elwa o’r anghydfod, dywedodd Dafydd Roberts ei fod yn gobeithio y bydd y diwydiant cerdd yn elwa yn y pendraw.
“Mae cyfansoddwyr yn gwerthfawrogi’r berthynas rhwng cerddorion a Radio Cymru yn fawr,” meddai.