Norovirus
Mi allai’r nifer o bobol gafodd eu heffeithio gan y salwch norovirus y Gaeaf hwn fod wedi pasio’r miliwn, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae’r nifer o achosion sydd wedi eu cadarnhau mewn labordy wedi cyrraedd 3,538 yng Nghymru a Lloegr, i fyny o 3,046 wythnos yn ôl – ac yn gynnydd anferthol o 83% ar y 1,934 o achosion gafwyd yr un adeg y llynedd.
Ond yn ôl yr Asiantaeth Diogelu Iechyd mae 288 o achosion heb eu cofnodi am bob achos sy’n cael ei riportio – sy’n golygu y gallai bod 1.01 miliwn o achosion norovirus.
Mae’r salwch wedi sgubo ledled y wlad ac wedi golygu cau dwsinau o wardiau ysbytai.
Symptomau norovirus ydy chwydu di-rybudd, dolur rhydd, neu’r ddau, a thymheredd uchel, cur pen a chrampiau stumog. Fel arfer mae’r byg yn ymadael o fewn ychydig ddyddiau.