Ar gynffon 2012 mae Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei bod eisiau creu Cymru decach.
Pwysleisia Leanne Wood ei bod am i’w phlaid helpu’r gwanaf ar adeg pan mae’r esgid ariannol yn gwasgu.
“Gyda llymder yn taro cymaint o’n dinasyddion, rhaid i ni sefyll dros bawb yn ein cymdeithas i’w hamddiffyn rhag y toriadau creulon,” meddai.
“Helpu’r anabl, yr henoed a’r bregus fydd ein blaenoriaethau eleni.
“Dyna pam mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â’r tlodi tanwydd sy’n effeithio ar gymaint o bobl, bod yn darian rhag y toriadau o San Steffan sy’n peryglu teuluoedd a mynd i’r afael â newid hinsawdd sydd yn effeithio’n anghymesur ar bobl dlotach, yma a thramor.
“Rydym eisiau Cymru lle mae pobl yn derbyn gofal; lle mae’r economi yn gweithio i’r bobl, nid y ffordd arall; lle nad yw tlodi yn anorfod a lle gallwn gyrraedd ein potensial trwy gydnabod y gallwn lwyddo i wneud mwy nac y medrwn ar ein pennau ein hunain.
“Dyma Gymru lle mae ein cymunedau, yr holl bobl sy’n byw yma, ein hanes a’n hiaith arbennig yn cael parch a chefnogaeth.”