Leighton Andrews
Mae’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi y bydd grant o hyd at £15,000 ar gael i fyfyrwyr ôl-radd sydd am gymhwyso’n athrawon Cymraeg.

Bydd myfyrwyr gyda gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn cael y £15,000, a’r swm yn gostwng wedyn wrth i safon y radd ostwng gyda £10,000 ar gael i rai gyda 2.1, a £6,000 i rai gyda 2.2 – nid oes arian ar gael i rai gyda graddau is na 2.2.

Y pynciau eraill sydd wedi eu targedu gan y Gweinidog Addysg, ac yn mwynhau’r un fath o nawdd, yw Maths, Ffiseg, Cemeg, Ieithoedd Tramor ac Astudiaethau Cyfrifidurol.

“Bwriad y grantiau hyn yw parhau i gryfhau ansawdd darpar athrawon yng Nghymru trwy ddenu’r mwya’ talentog i fyd dysgu,” meddai Leighton Andrews.