Bydd Tŷ a Gerddi’r Dyffryn ym Mro Morgannwg yn dechrau ar gyfnod newydd yn ei hanes ym mis Ionawr.

Bydd yn cael eu rheoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar brydles 50 mlynedd.

Bydd elusen gadwraeth fwyaf Cymru â chyfrifoldeb am y tŷ Gradd II a’r gerddi Gradd o Ddydd Calan. Bydd y Gerddi’n ail-agor i’r cyhoedd ar ôl gwyliau’r Nadolig ar ddydd Gwener, Ionawr 4.

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn cadw ei berchnogaeth o’r eiddo gan roi prydles o 50 mlynedd i’r Ymddiriedolaeth.

“Mae tyfu a llunio gardd odidog yn brosiect tymor hir,” meddai Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae’r gwaith a wnaethpwyd hyd yma gan bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â Gerddi’r Dyffryn ers ei dechreuad – y teulu Cory, Thomas Mawson, Cyngor Bro Morgannwg, Cadw a Chronfa Treftadaeth y Loteri – wedi cynhyrchu safle rhyfeddol.

“Ni ellir cymryd yn ganiataol yr angerdd a fu’n rhan o greu Gerddi’r Dyffryn dros y blynyddoedd – gan wirfoddolwyr, staff a chefnogwyr.  Ac rydyn ni am i bawb ymuno â ni i harneisio’r angerdd hwnnw ar gyfer cyfnod newydd yn nhaith y Dyffryn.

“Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch ac yn freintiedig o fod yn ymgymryd â stiwardiaeth y gerddi godidog yma.”

Disgrifiodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor y Fro dros Hamdden, Parciau, Diwylliant a Datblygu Chwaraeon, y trosglwyddiad fel cam pwysig i ddiogelu dyfodol y tŷ a’r gerddi ac fel hwb i dwristiaeth leol.

“Mae’r cyngor wedi gwneud gwaith mawr i adfer y tŷ â’r gerddi ers caffael yr eiddo yn 1996,” meddai.

“Yn ogystal ag adfer y gerddi a’r tai gwydr, rydyn ni hefyd wedi datblygu cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr ac wedi gwneud gwaith i ddiogelu ffabrig y tŷ.

“Mae’r lle’n awr â dyfodol cyffrous yn rhan o bortffolio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y gerddi a’r tŷ’n cael eu datblygu ymhellach, a hynny’n elwa twristiaeth yn y Fro ac yn diogelu dyfodol y stad bwysig a hanesyddol yma.

“Hoffwn ddiolch i bob un o’n staff sydd wedi gweithio ar y prosiect ac i Gronfa Treftadaeth y Loteri am y gefnogaeth maen nhw wedi ei rhoi i ni dros y blynyddoedd.  Rydyn ni’n edrych ymlaen at bartneriaeth hir a llwyddiannus efo’r Ymddiriedolaeth.”

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, “Mae Tŷ a Gerddi’r Dyffryn yn un o’n gemau treftadaeth fwyaf arwyddocaol.  Rydyn ni’n hynod falch y bydd y buddsoddiad o dros £6 miliwn o gyllid y loteri’n awr yn cael ei gynnal drwy arbenigedd a phrofiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

“Fe barhawn ni i weithio’n agos â’r tîm yn Nhŷ a Gerddi’r Dyffryn a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac fe edrychwn ymlaen at weld ail-agor y tŷ yn 2013.”