Golygfa o'r gyfres Mathias
Bydd trigolion y wlad wnaeth gyflwyno’r ditectif Sarah Lund a’i siwmperi i’r byd yn awr yn cael y cyfle i wylio hynt a helynt ditectif o Gymru.

Bydd cyfres dditectif o Gymru, Mathias,  yn cael ei dangos ar deledu yn Denmarc wedi i ddarlledwyr yn y wlad brynu’r gyfres a fydd yn ymddangos gyntaf ar S4C y flwyddyn nesaf.

Bydd fersiwn Saesneg o gyfres Mathias yn cael ei dangos ar DR, sef y sianel oedd yn gyfrifol am gyfres boblogaidd The Killing.  Fe wnaeth y drydedd gyfres ddod i ben ar BBC4 neithiwr, a dyma fydd y gyfres olaf.

Mae Mathias yn cael ei ffilmio yn Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd ar gyfer darlledu ar S4C a’i gwerthu’n rhyngwladol gyda’r teitl Saesneg Hinterland.

Mae’r ffilmio yn digwydd nawr yn Aberystwyth a Cheredigion a bydd y criwiau yn gweithio yno tan fis Mai.

Dywedodd Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd Drama S4C, “Mae dramâu ditectif yn gyfrwng poblogaidd yn rhyngwladol ac fe fydd naws ac awyrgylch gynhyrfus, iasol a dyfeisgar Mathias yn apelio at wylwyr yng Nghymru ac at gynulleidfaoedd tramor.

“Mae’r gwerthiant i sianel DR yn brawf o hyn ac rwy’n hyderus y bydd hi mor boblogaidd ymhlith gwylwyr y sianel ag oedd The Killing.”