Ty Newydd, Llanystumdwy
Mae canolfan ysgrifennu Ty Newydd yn Llanystumdwy yn chwilio am fos newydd, wrth i un o sylfaenwyr y ganolfan ehangu ei gorwelion.
Fe fydd Sally Baker, a sefydlodd y ganolfan ysgrifennu gyda’i chyfaill, y Bardd Cenedlaethol, Gillian Clarke, yn 1990, yn dechrau ar swydd newydd ym mis Ionawr, yn swyddog rhyngwladol i asiantaeth Llenyddiaeth Cymru.
Sally Baker ydi Cyfarwyddwr Ty Newydd a Datblygu Rhyngwladol, Llenyddiaeth Cymru; mae hi’n rhedeg Ty Cyfieithu Cymru (o Dy Newydd) mewn partneriaeth â Chyfnewidfa Lên Cymru, ac mae’n aelod o Fwrdd Halma, rhwydwaith o dai llenyddol Ewropeaidd.
A dyna pam mae angen Rheolwr newydd ar Dy Newydd – i fod yn gyfrifol am faterion gweithredol a datblygu busnes, gan gynnwys cynllunio strategaeth masnachol.
Pennaeth Tŷ Newydd sydd hefyd, yn ôl y disgrifiad swydd, yn gyfrifol am raglen gweithgareddau a chyrsiau’r ganolfan, gyda phwyslais clir ar “gynyddu’n sylweddol incwm masnachol Llenyddiaeth Cymru”. A hynny am gyflog o £27,000.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau ydi dydd Gwener, Ionawr 11, 2013.