Psycho Kiss
Mae band roc o Gastell Nedd sydd â chynghorydd lleol ymysg yr aelodau, wedi derbyn canmoliaeth uchel yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Classic Rock AOR.

Mae Helen Ceri Clarke yn gynhorydd cymuned gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a hi sy’n canu i Psycho Kiss.

Roedd adolygiad o albwm y band, ‘Monkeying Around’, yn ei ddisgrifio fel un o “albyms cyntaf gorau’r flwyddyn”.

Mae’r band wedi bod yn chwarae clybiau lleol yn ne Cymruers peth amser ac fe  gynhyrchwyd eu halbwm cyntaf yn gynharach eleni. Fe fyddan nhw’n chwarae ym Mharis a Venice flwyddyn nesa ac yn gobeithio mynd ar daith o amgylch Prydain rhyw ben yn y flwyddyn newydd.