Rhan o boster y ffilm
Fe fydd un o ffilmiau enwoca’ Cymru ar gael i bobol ei hastudio a gweld deunyddiau cefndir.

Fe gyhoeddodd y Llyfrgell Genedlaethol eu bod wedi derbyn y copi gwreiddiol o Under Milk Wood, y ffilm fawr o ddrama radio Dylan Thomas.

Fe gafodd honno’i ffilmio yn 1972, yn rhannol yn Abergwaun, gyda Richard Burton yn brif lais a rhai fel Ryan Davies, Peter O’Toole, Elizabeth Taylor a Sian Phillips yn y cast.

Fe fydd y ffilm a deunydd cefndir amdani’n cael ei chyflwyno i’r Archif Sgrin a Sain ac mae’r cyfarwyddwr, Andrew Sinclair, wedi creu Ymddiriedolaeth er mwyn defnyddio incwm o’r ffilm ar gyfer prosiectau diwylliannol.

Ymateb y Llyfrgell

“Mae nifer o gasgliadau’n ymwneud â’r bardd [Dylan Thomas] wedi ‘dod adref’ atom, dros y blynyddoedd diwetha’,” meddai’r Llyfrgellydd Cenedlaethol, Andrew Green.

“Mae potensial amlwg i’r casgliad cyfoethog hwn ychwanegu dimensiwn unigryw ac apelgar i’r dathliadau.”