Gwartheg ar fynyddoedd y Cambrian
Fe fydd pwyslais newydd ar gynyddu cynnyrch y diwydiannau ffermio a choedwigo dan gynllun newydd sy’n cael cefnogaeth y Llywodraeth.

Mae’r undebau amaeth hefyd wedi rhoi croeso cynnes i’r adroddiad gan Fforwm yr Ucheldir sy’n cynnwys argymhelliad i roi cymorth ariannol i ffermwyr mewn tiroedd anodd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n derbyn chwech prif argymhelliad yn yr adroddiad.

Ymhlith y rheiny, mae cymorth sydd wedi’i anelu’n benodol at yr ucheldir, bwriad i wneud y gorau o holl adnoddau’r ucheldir a datblygu gwasanaethau lleol i gwrdd ag anghenion lleol.

Ymateb yr undebau

Roedd undeb NFU Cymru’n rhoi croeso arbennig i’r gefnogaeth i ffermio da byw ac i’r addewid o gymorth i ffermwyr mewn ardaloedd llai ffafriol.

Am y tro cynta’ ers blynyddoedd, does dim arian arbennig i’r ardaloedd hynny ac fe rybuddiodd eu llefarydd ar yr ucheldir fod ffermwyr yn wynebu amser anodd.

“Dyma’r gaea’ cynta’ heb daliadau cefnogaeth penodol i ardaloedd llai ffafriol. Mae costau uchel bwydydd a marchnad wan i gig oen yn rhoi pwysau difrifol ar fusnesau ffermio,” meddai John Owen.

Roedd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru’n mynnu bod yr ucheldiroedd yn “asgwrn cefn diwylliannol ac economaidd” i Gymru.

“Mae llawer o bobol yn dibynnu ar yr ardaloedd yma, yn economaidd, yn gymdeithasol ac am hamdden, sy’n dod â buddiannau economaidd,” meddai Emyr Jones.