Llifogydd y mis diwetha yn Llanelwy
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi rhybuddio pobol i wylio rhag llifogydd yn ystod y ddeuddydd nesa’.
Maen nhw’n disgwyl glaw trwm trwy’r dydd heddiw a phroblemau gyda llanw uchel erbyn heno a bore Sadwrn.
Fe fydd amodau gyrru’n arbennig o anodd heddiw, meddai’r Asiantaeth, ac mae’r tir gwlyb yn golygu y bydd dŵr yn llifo i’r ffyrdd.
Ond mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys Edeyrnion a Blaenau’r Cymoedd, mae rhew tywyll wedi achosi problemau.
Rhybuddion llifogydd
Fe gafodd dau rybudd pendant rhag llifogydd eu cyhoeddi ar gyfer Biwmares a’r rhan o afon Tywi yng Nghaerfyrddin sy’n cael ei heffeithio gan y llanw.
Mae naw rhybudd rhag y posibilrwydd o lifogydd yn cynnwys y rhan fwya’ o lannau môr y wlad.
Fe fydd peryg arbennig i bobol sy’n cerdded ar lan y môr meddai’r Asiantaeth, gyda phosibilrwydd o donnau mawr ac ewyn.