Mae disgwyl i gwmni awyrennau Airbus gyhoeddi cytundeb sylweddol heddiw a fydd yn helpu i ddiogelu 9,000 o swyddi ym Mhrydain.

Fe fydd David Cameron yn ymweld â ffatri’r cwmni ym Mrychdyn yn Sir y Fflint heddiw.

Dywedodd Downing Street y byddai’r cytundeb yn diogelu 1,500 o swyddi Airbus yn y DU, a 7,500 o swyddi eraill sy’n gysylltiedig â’r cwmni.

Yn ol Downing Street, mae’r newyddion yn hwb i’r diwydiant cynhyrchu ac yn newyddion da o ran swyddi, yn dilyn ffigurau ddoe oedd yn dangos y gostyngiad mwyaf yn nifer y di-waith ers degawd.