Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod ar draeth Niwbwrch ar Ynys Môn.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi cael galwad am 10.15 y bore ma, ac nad yw’r corff wedi cael ei adnabod hyd yma.

Nid yw’r heddlu yn trin y farwolaeth fel un amheus.