April Jones
Mewn cynhadledd newyddion bore ma, dywedodd Heddlu Dyfed Powys y byddan nhw’n parhau i chwilio am April Jones nes eu bod nhw’n fodlon eu bod wedi chwilio pob safle posib, ond eu bod yn methu dweud pryd fydd y gwaith chwilio yn dod i ben.

Diflannodd y ferch 5 mlwydd oed ger ei chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref.

Mae Mark Bridger, 46 mlwydd oed, yn cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o’i  llofruddio.

Dywed yr heddlu mai dyma un o’r ymchwiliadau mwyaf yn hanes y DU gan yr heddlu gyda phlismyn o bob cwr o Brydain yn cymryd rhan yn y chwilio yn ogystal â nifer o wirfoddolwyr.

Er y bydd y chwilio yn dod i ben dros gyfnod y Nadolig, bydd y gwaith yn parhau yn y flwyddyn newydd “i ddod o hyd i April a darganfod beth ddigwyddodd ar y noson honno ym Machynlleth,” meddai’r Arolygydd Ian John.

Mae rhieni April Jones hefyd wedi rhyddhau datganiad sy’n  diolch i’r cyhoedd am eu cefnogaeth ac yn dweud y bydd cyfnod y Nadolig yn anodd iddyn nhw fel teulu.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Heddlu Dyfed Powys am eu hymdrechion parhaus i ddod o hyd April,” meddai’r datganiad gan Coral a Paul Jones.

“Mae’r ymroddiad a ddangoswyd gan y timau chwilio sydd wedi dod o bob cwr o’r DU wedi bod yn wirioneddol anhygoel. Rydym yn cymryd cysur i feddwl y byddan nhw’n dychwelyd at eu teuluoedd i gael gorffwys haeddiannol dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.”