Jade Jones
Y seren Taekwondo, Jade Jones, sydd wedi cipio tlws Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru mewn seremoni yn Stadiwm y Mileniwm neithiwr.
Roedd Jade wedi ennill y fedal aur yn y gystadleuaeth 57kg i ferched yn y Gemau Olympaidd eleni.
Y ferch 19 mlwydd oed o’r Fflint enillodd y bleidlais gyhoeddus gyda rheng ôl y Dreigiau a Chymru, Dan Lydiate yn ail a’r beiciwr Geraint Thomas yn drydydd.
“Alla’i ddim credu mod i wedi ennill,” meddai. “Mae’n anrhydedd anferthol fod pobl yn cydnabod beth ydw i wedi’i wneud.”
Roedd enwebiadau eraill am y tlws yn cynnwys chwaraewr canol cae Tottenham a Chymru, Gareth Bale, y bocsiwr Nathan Cleverly a’r Paralympiwr, Aled Davies.