Rio Ferdinand
Mae cefnogwr Manchester City a redodd ar y cae yn ystod gêm fawr Manceinion ddoe wedi ymddiheuro am ei ymddygiad, ac wedi diolch i gôl-geidwad ei glwb am ei ddal yn ôl.
Ceisiodd Matthew Stott redeg tuag at amddiffynnwr Manchester United, Rio Ferdinand, ar ddiwedd y gêm rhwng City ac United yn Stadiwm Etihad. Mae’r garddwr 21 oed wedi dweud ei fod am anfon llythyr o ymddiheuriad tuag at y chwaraewr, ac wedi diolch i’r gôl-geidwad Joe Hart am ei rwystro.
Mae Heddlu Manceinion wedi cyhuddo naw person ar ôl helyntion ar ddiwedd y gêm dderbi. Sgoriodd Robin Van Persie gôl hwyr ddramatig i ennill y gêm i United a mynegodd rhai o gefnogwyr City eu dicter.
Mae’r heddlu yn dal i chwilio am y person a daflodd darn dwy geiniog at Rio Ferdinand, gan dorri cwt uwchben ei lygad.
“Gallan nhw fod wedi cymryd llygad Rio mas,” meddai Ashley Young, cyd-chwaraewr Ferdinand.
‘Gwaharddiad am oes’
Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Bêl-droed yn Lloegr eu bod nhw’n cydweithio gyda’r heddlu ac yn disgwyl adroddiad gan y dyfarnwr a chynghorydd rheoli tyrfa’r Gymdeithas.
“Mae’n siom, ar ôl gêm dda a hysbyseb gwych i’r Uwchgynghrair, ein bod ni’n trafod y mater,” meddai’r llefarydd.
“Byddwn yn gweithio gyda’r clybiau a’r awdurdodau i ddod o hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol a chefnogi’r cosbau mwyaf llym, gan gynnwys gwaharddiad am oes.
“Roedd gweld Rio Ferdinand yn gorfod gadael y cae gyda chwt uwchben ei lygad yn warthus.”