Mae dyn o Abertawe wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl iddo gael ei holi ar amheuaeth o wneud ystum hiliol mewn gêm bêl-droed.

Bydd ymchwiliad yr heddlu i’r digwyddiad yn ystod y gêm rhwng Abertawe a Norwich City yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, yn parhau.

Honnir bod y dyn 23 mlwydd oed wedi ei arestio ar ôl iddo wneud ystum mwnci i gyfeiriad amddiffynnwr Norwich, Sebastien Bassong, a sgoriodd yn ystod y gêm.

Cafodd Abertawe ei guro gan  Norwich 4-3 yn y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr  a dywedodd eu rheolwr ei fod wedi ei siomi bod y digwyddiad wedi taro cysgod dros fuddugoliaeth oddi cartref cyntaf ei dîm y tymor hwn.