Gleision 24–35 Montpellier

Colli fu hanes y Gleision ar Barc yr Arfau brynhawn Sul wrth i Montpellier ymweld â Chaerdydd yng ngrŵp 6 Cwpan Heineken.

Er i’r Gleision ddechrau’n dda, daeth trobwynt yn y gêm hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan dderbyniodd Lloyd Williams gerdyn coch am dacl beryglus.

Dechrau Da

Y Gleision oedd y tîm gorau yn y chwarter cyntaf, yn rheoli’r tir a’r meddiant. Ac yn Rhys Patchell roedd ganddynt faswr ifanc oedd yn rheoli’r gêm ac yn barod i fanteisio ar yr oruchafiaeth. Llwyddodd gyda thair allan o’i bedair cic gosb gyntaf.

Ond er mai prin oedd ymweliadau Montpellier â dau ar hugain y Gleision, roedd disgyblaeth amddiffyn y Cymry yn wael a llwyddodd Benoit Paillaugue gyda dwy gic gosb i gadw’r Ffrancwyr yn y gêm. 9-6 wedi ychydig dros ugain munud.

Cerdyn Coch

Yna daeth y digwyddiad a newidiodd y gêm – cerdyn coch Williams am dacl beryglus ar Paillaugue. Roedd hi’n edrych yn wael ac fe gythruddodd hi holl dîm Montpellier ond rhaid nodi fod Williams mewn rheolaeth o’r dacl o’i dechrau i’w diwedd.

Ond coch oedd penderfyniad John Lacey ar ôl trafodaeth gyda’i gynorthwywr, a chosbwyd y Gleision ym mhellach wrth i Paillaugue godi ar ei draed i unioni’r sgôr gyda’r gic gosb.

Wnaeth y Gleision ddim ildio serch hynny ac roedd Patchell yn serennu. Adferodd fantais y Gleision gyda gôl adlam dda.

Ond gyda’r dyn ychwanegol, roedd hi’n anochel y byddai Montpellier yn dod o hyd i fylchau a dyna’n union a wnaeth yr asgellwr, Pierre Berard, wedi hanner awr wrth sgorio cais cyntaf y gêm. 12-16 yn dilyn trosiad Paillaugue.

Cyfnewidiodd Patchell a Paillaugue dri phwynt yr un eto cyn hanner amser, 15-19 ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dechreuodd y pedwar dyn ar ddeg yr ail gyfnod yn dda a dim ond pwynt oedd ynddi yn dilyn cic gosb gynnar Patchell. A bu bron iddo roi ei dîm ar y blaen gyda gôl adlam arall, ond roedd y Gleision ynddi o hyd ar yr awr.

Ond toc wedi hynny fe ymestynnodd yr ymwelwyr y fantais i naw pwynt gyda chic gosb o droed Paillaugue a chais gan y blaenasgellwr, Mamuka Gorgodze.

Yn ôl y daeth y Gleision unwaith eto serch hynny gyda dwy gic gosb mewn dau funud gan Patchell i gau’r bwlch i dri phwynt gyda deg munud i fynd.

Ond y Ffrancwyr orffennodd gryfaf gyda chic gosb arall gan Paillaugue a chais hwyr gan yr eilydd gefnwr, Timoci Nagusa.

Ymdrech ddewr gan y Gleision felly ond buddugoliaeth haeddianol i Montpellier. Mae’r canlyniad yn gadael y rhanbarth o Gymru ar waelod grŵp 6 gyda dim ond un pwynt.

.

Gleision

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 3’, 12’, 22’, 34’, 42’, 69’, 70’

Gôl Adlam: Rhys Patchell 28’

Cerdyn Coch: Lloyd Williams 24’

.

Montpellier

Ceisiau: Pierre Berard 30’, Mamuka Gorgodze 64’, Timoci Nagusa 78’

Trosiad: Benoit Paillaugue31’

Ciciau Cosb: Benoit Paillaugue 9’, 17’, 25’, 39’, 63’, 73’