Mae’r argraffiad cynta’ o hunangofiant yr actor fu’n portreadu Denzil ar Pobol y Cwm, wedi ei werthu i gyd.

Am yr ail fis yn olynol mae hunangofiant Gwyn Elfyn, Gwyn y Mans ar frig siartiau Gwerthwyr Gorau Gwales.

Er bod copïau i’w cael mewn ambell i siop, does dim stoc yn weddill gan y cyhoeddwyr na’r Cyngor Llyfrau, yn ôl y Lolfa.

“Mae’r galw am gopïau o Gwyn y Mans wedi bod yn aruthrol,” meddai Branwen Huws o’r Lolfa. “Mae Gwyn Elfyn yn ddyn annwyl a phoblogaidd iawn, yn hynod weithgar o fewn ei filltir sgwâr, ac rydym yn ei longyfarch ar lwyddiant y llyfr.”