Mewn rhaglen arbennig o Gwlad yr Astra Gwyn – mae rhywbeth mawr yn newid.

Am y tro cyntaf yn hanes y rhaglen, mae Trefor yn gadael ei dacsi!

Ym mhennod Nadoligaidd arbennig y rhaglen gomedi, mae Trefor a’i ffrindiau’n torri tir newydd – gan fentro allan, nid mewn tacsi, ond yn hytrach mewn bws mini.  Ar nos Fawrth, 18 Rhagfyr, mi welwn ni’r criw yn pentyrru i mewn i’r bws mini ac yn croesi’r dŵr i Ddulyn.

Trefor, wrth reswm, sydd wrth y llyw, ac mae wedi mynd i gryn drafferth i addurno’r bws yn barod at y daith arbennig hon.

Gwlad yr Astra Gwyn

Nos Fawrth 18 Rhagfyr 9.30, S4C