Mae’r wefan gymdeithasol Twitter wedi lansio rhestr newydd o bynciau llosg,neu Trends, sy’n ymwneud â Chaerdydd heddiw.
Bydd y datblygiad yn galluogi defnyddwyr i weld beth sy’n digwydd yn y Brifddinas mewn ffordd llawer haws nag o’r blaen yn ôl y wefan.
Dywedodd Carl Morris o gwmni ymgynghori cyfryngau digidol, Native HQ: “Dw i’n chwilfrydig am y rhestr newydd o bynciau llosg o Gaerdydd.
“Ond dyw Twitter ddim wedi rhyddhau manylion am sut yn union maen nhw yn casglu’r pynciau llosg. Felly mae’n anodd gwybod sut maen nhw’n gweithio heblaw’r dadansoddiad o’r geiriau mwyaf poblogaidd ar sail lleoliad.”
Ond o ran cyd-destun ieithyddol dyw Carl ddim yn credu “bod unrhyw ystyriaeth o ‘pêl-droed’ fel gair cyfwerth i ‘football’ er enghraifft.
“Ac er eu bod nhw’n cystadlu gydag ieithoedd eraill y ddinas, Saesneg yn bennaf, mewn theori bydd pynciau llosg yn Gymraeg bob hyn a hyn os ydyn nhw yn ddigon poblogaidd.”