Mae dau o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dechrau ymgynghori ar y cyd i weld  a ddylid caniatáu ysmygu mewn adeiladau lle mae ffilmio neu gynyrchiadau drama yn digwydd.

Byddai’r newid yn eithrio artistiaid a pherfformwyr o’r rheoliadau di-fwg presennol pe bai hygrededd y perfformiad yn cyfiawnhau hynny.

Er mwyn ystyried y gwelliannau arfaethedig, mae’r Pwyllgor Menter a Busnes a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi sefydlu is-bwyllgor yr un a byddant yn astudio’r dystiolaeth gyda’i gilydd.

Dywedodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes: “Ar y naill law byddwn yn ystyried a oes angen masnachol i’r gwelliant hwn ac a fydd yn cyflawni’i nod o gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru.”