Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd o law a rhew yn y gogledd a’r canolbarth dros nos.

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio y gallai’r rhew amharu ar y ffyrdd bore Mercher.

Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi datgan bod posibilrwydd o eira, yn enwedig ar diroedd uchel, wrth i’r tymheredd ostwng.

Mae’r rhybudd yn dod i rym am 4pm prynhawn ma ac yn dod i ben am hanner dydd ddydd Mercher.

Dywedodd Erin Roberts, Cyflwynydd Tywydd S4C, wrth Golwg360: “Wedi diwrnod cawodlyd mi fydd yr awyr yn clirio a’r tymheredd yn syrthio yn gyflym heno.

“Bydd hi’n rhewi yn galed mewn mannau cysgodol a hyn yn arwain at ffyrdd a phalmentydd llithrig, tua’r gogledd yn benodol.

“Wrth i’r tymheredd godi’n hynod o ara’ fory mae’r bygythiad yn debygol o bara am y rhan helaeth o’r bore a’r Swyddfa Dywydd yn annog y cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol.”