Mae Cyngor Sir Ddinbych heddiw yn ystyried ychwanegu 1,000 o dai at gynllun codi tai’r cyngor.
Cafodd y Cynllun Datblygu Unedol ei gymeradwyo yn 2008 ac mae’n cynnwys codi 7,500 o dai erbyn 2021, sydd 1,000 yn brin o amcangyfrif Llywodraeth Cymru ar gyfer y twf mewn poblogaeth meddai’r Cyngor Sir.
Mae’r safleoedd ychwanegol sy’n cael eu hystyried heddiw yn cynnwys 169 o dai yn Ninbych, 104 yn Rhuddlan, 172 o dai ar dir Ysbyty HM Stanley yn Llanelwy a 59 yn Rhuthun.
Wythnos ddiwethaf bu llifogydd yn rhan isaf Llanelwy yn dilyn glaw trwm, a bu stad newydd sbon Glasdir yn Rhuthun dan ddŵr ar ôl i amddiffynfeydd gael eu gorlifo gan yr Afon Clwyd.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Sir Ddinbych yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i’r llifogydd yn y Glasdir oedd i fod â siawns o ddioddef llifogydd unwaith mewn 1,000 o flynyddoedd.
Mae’r adroddiad sydd gerbron y Cyngor heddiw yn dadlau na fydd y 1,000 o dai newydd yn ychwanegol at y nod o godi 7,500 o dai ond yn hytrach yn “darparu mwy o gyfle a hyblygrwydd i’r farchnad gwrdd â’r ffigwr yna dros gyfnod y Cynllun Unedol.”
Mae hefyd yn cydnabod y bydd hi’n annhebyg yn yr hinsawdd economaidd bresennol y bydd galw am 7,500 o dai ychwanegol erbyn 2021, ond “nad lle’r Cynllun Datblygu Unedol yw dyfalu cyflwr yr economi ond yn hytrach i ddarparu uchafswm ar gyfer y galw a darparu tir ar ei gyfer.”