Mae ymchwiliad wedi darganfod bod llong nwyddau wedi dioddef “methiant strwythurol trychinebus” cyn suddo oddi ar arfordir Gwynedd.
Bu farw chwe aelod o griw’r llong o Rwsia.
Roedd yr MV Swanland yn hwylio oddi ar arfordir Pen Llŷn yn oriau man y bore ar 27 Tachwedd 2011 pan aeth i drafferthion mewn tywydd garw.
Dywedodd adroddiad cychwynnol gan yr Uned Ymchwilio i Ddamweiniau Morol bod y llong wedi suddo o fewn chwarter awr iddi fynd i drafferthion. Roedd hi’n cludo calchfaen o Landdulas yng ngogledd Cymru i Ynys Wyth ar y pryd.
Dywed yr adroddiad bod llawer o’r dystiolaeth wedi ei chasglu’n barod a bod disgwyl i’r adroddiad terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2013. Mae’r ymchwiliad yn bwriadu darganfod achos y “methiant strwythurol trychinebus” a pham mai dim ond dau o’r criw o wyth wnaeth oroesi.
Llwyddodd dau o’r criw i ddringo i mewn i fad achub a chawsant eu hachub gan hofrennydd yr Awyrlu. Cafodd corff trydydd aelod o’r criw ei ddarganfod yn hwyrach ond dyw cyrff y pum aelod arall erioed wedi cael eu darganfod.