Teuluoedd yng Nghymru sy’n gwario’r lleiaf bob wythnos, yn ôl ffigurau newydd.

Maen nhw’n gwario £398.20 bob wythnos ar gyfartaledd yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau, cynnydd o £4.20 ers y llynedd.

Yng ngweddill y DU, mae gwariant wythnosol teuluoedd wedi codi i £483.60 yr wythnos – cynnydd o £10 yr wythnos o’i gymharu â 2010.

Costau trafnidiaeth yw’r gwariant mwyaf i deuluoedd – £53.80 yr wythnos yng Nghymru a £63 yng ngweddill y DU.

Ymhlith y costau eraill mae nwyddau i’r tŷ a gwasanaethau – £22.10 yr wythnos (£28.90 yn y DU); hamdden a diwylliant – £53.60 (£59.80 yn y DU); bwytai a gwestai – £31.80 (£39.10 yn y DU).

Teuluoedd yng Nghymru sy’n gwario’r mwyaf ar addysg – £8.70 yr wythnos o’i gymharu â £8 ar gyfartaledd yn y DU.

Teuluoedd yn Llundain sy’n gwario’r mwyaf – £574.90 yr wythnos ar gyfartaledd.