Dinbych y Pysgod
Mae cabinet Cyngor Sir Benfro wedi rhoi sêl bendith y bore ma i sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych y Pysgod.

Fel rhan o’r cynllun bydd ysgol newydd Saesneg ei chyfrwng hefyd yn cael ei datblygu yn y dref.

Mae’r cynllun gwreiddiol i gyflwyno’r newidiadau erbyn 2013 wedi cael eu gohirio am ddwy flynedd medd y Cyngor, ac mae disgwyl nawr y bydd gan Ddinbych y Pysgod ddwy ysgol newydd erbyn mis Medi 2015.

“Mae’n gyfle cyffrous a hanesyddol i addysg gynradd yn y dref,” meddai’r Cynghorydd Huw George, sy’n gyfrifol am addysg a’r Gymraeg ar gabinet Cyngor Sir Benfro.

“Bydd yn cryfhau’r ddarpariaeth gynradd, a Chymraeg, yn yr ardal,” meddai.

Y ddwy ysgol

Bydd yr ysgol Gymraeg yn cael ei datblygu ar safle’r ysgol fabanod bresennol ac mae disgwyl bydd 122 o ddisgyblion ynddi, tra bydd yr ysgol Saesneg wedi ei lleoli ar safle’r ysgol iau a chanddi tua 329 o ddisgyblion.

Ni fydd yr ysgolion yn cael eu codi o’r newydd ond mae yna waith addasu’r adeiladau cyn sefydlu’r ddwy ysgol meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro.

Bydd enwau’r ddwy ysgol yn cael eu penderfynu ar ôl sefydlu byrddau llywodraethol newydd.

‘Cadarnhaol’

Mae prif swyddog Menter Iaith Sir Benfro wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw.

“Mae uned Gymraeg yn y dref ers blynyddoedd a mae sefydlu ysgol Gymraeg yn beth cadarnhaol iawn i’r iaith yn Ninbych y Pysgod,” meddai Rhidian Evans.

“Mae’n dref sy’n ddibynnol iawn ar dwristiaid wrth gwrs, a nifer ohonyn nhw o Gymru, a dwi heb brofi llawer o wrthwynebiad i’r Gymraeg yno.

“Byddai’n braf os yw’r penderfyniad heddiw yn gam tuag at sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg yn ne’r sir,” meddai Rhidian Evans.