Y Parc Olympaidd yn Llundain
Mae’r Farwnes Grey-Thompson wedi cael ei phenodi i fwrdd sy’n gyfrifol am ddyfodol y Parc Olympaidd.

Y bencampwraig Baralympaidd o Gymru yw wyneb newydd bwrdd Corfforaeth Ddatblygu Etifeddiaeth Llundain (LLDC) ynghyd a sylfaenydd Carphone Warehouse David Ross.

Mae’r Farwnes Grey-Thompson eisoes yn aelod o fwrdd Transport for London a Marathon Llundain. Mae hefyd yn un o dri ar banel yr Undeb Seiclo Rhyngwladol a fydd yn ymchwilio i’r helynt cyffuriau yn ymwneud a Lance Armstrong.

Dywedodd  y Farwnes Grey-Thompson: “Y Parc Olympaidd oedd calon y Gemau Olympaidd gorau erioed, ond yn 2005, fe wnaethon ni gyflwyno ein gweledigaeth i ddod a bywyd newydd i ddwyrain Llundain ond hefyd i ddarparu rhwydwaith chwaraeon a chymunedol ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n benderfynol o ddod a’r weledigaeth yna’n fyw ac i fod yn rhan o’r darn olaf hollbwysig yn jig-so’r Gemau.”