Airbus 2-1 Drenewydd

Mae Airbus yn y ras tua brig y gynghrair o hyd yn dilyn buddugoliaeth dros y Drenewydd ar y Maes Awyr nos Wener.

Peniodd Mike Hayes y tîm cartref ar y blaen o gic gornel wedi deunaw munud ond roedd y Drenewydd yn gyfartal ddeg munud yn ddiweddarach gyda gôl daclus. Disgynnodd y bêl i Kieran Mills-Evans ar ochr y cwrt cosbi ac anelodd hi’n gywir i’r gornel isaf o ddeunaw llath.

Ond roedd Airbus yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod pan dynnodd Wayne Riley’r bêl yn ôl i Chris Budrys yn y cwrt cosbi iddo yntau orffen y symudiad gydag ergyd gelfydd gydag ochr allan ei droed.

Methodd Airbus gic o’r smotyn yn hwyrach yn y gêm ond wnaeth hynny ddim effeithio’r canlyniad.

Aros yn bedwerydd y mae Airbus er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond tri phwynt sydd yn eu gwahanu hwy a Bangor ar y brig bellach. Mae’r Drenewydd ar y llaw arall yn disgyn i safleoedd y gwymp.

(Torf: 210)

.

Llanelli 0-0 Aberystwyth

Di sgôr oedd hi rhwng Llanelli ac Aberystwyth yn y frwydr tua’r gwaelodion ar Stebonheath nos Wener.

Ychydig iawn o gyfleoedd a gafwyd mewn gêm ddiflas cyn i Martin Rose gael cyfle i’w hennill hi i’r tîm cartref yn y munudau olaf yn dilyn gwaith da Geoff Kellaway. Ond saethodd y blaenwr dros y trawst wrth iddi orffen yn gyfartal.

Mae’r pwynt yn codi Llanelli i’r degfed safle tra mae Aber yn aros yn nawfed. Y dorf o 214 oedd yr ail uchaf ar Stebonheath y tymor hwn.

(Torf: 214)

.

Lido Afan 2-1 Gap Cei Connah

Enillodd Lido Afan yn y gynghrair am y tro cyntaf ers mis Medi wrth i Gap Cei Connah ymweld â Stadiwm Marstons brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Chris Hartland y tîm cartref ar y blaen yn y munud cyntaf cyn i Mark Jones ddyblu’r fantais o’r smotyn ddeg munud cyn yr egwyl.

Fe wnaeth Alan Hooley dynnu un yn ôl i’r ymwelwyr gyda chic o’r smotyn bum munud o’r diwedd ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi wrth i Lido ddal eu gafael tan y diwedd.

Aros ar waelod y tabl y mae Lido Afan er gwaethaf y tri phwynt ac mae Cei Connah yn disgyn o’r chwech uchaf i’r seithfed safle.

(Torf: 76)

.

Caerfyrddin 1-1 Bala

Cyfartal oedd hi rhwng Caerfyrddin a’r Bala ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn. Ciciau o’r smotyn oedd y ddwy gôl, un gynnar i’r Bala ac un hwyr i Gaerfyrddin.

Lloriwyd Steff Edwards yn y cwrt cosbi wedi dim ond tri munud a rhoddodd Lee Hunt yr ymwelwyr ar y blaen o ddeuddeg llath.

Ac er i Gaerfyrddin orffen y gêm gyda deg dyn yn dilyn cerdyn coch hwyr Matthew Rees fe gafodd yr Hen Aur i unioni’r sgôr yn y munud olaf wedi i Stephen Brown lawio yn y bocs. Cymerodd Liam Thomas y gic gan sgorio ei ddeuddegfed gôl yn y ddeg gêm ddiwethaf.

Nid yw’r canlyniad yn effeithio’r tabl gyda’r Bala yn aros yn bumed a Chaerfyrddin yn wythfed.

(Torf: 323)

.

Port Talbot 1-0 Prestatyn

Cafodd cyn amddiffynnwr Caerdydd, Scott Young, fuddugoliaeth yn ei gêm gyntaf fel rheolwr dros dro Port Talbot er i’w dîm orfod chwarae’r gêm i gyd fwy neu lai gyda deg dyn yn Stadiwm GenQuip brynhawn Sadwrn.

Anfonwyd Carl Payne oddi ar y cae wedi dim ond ugain eiliad am drosedd ar Michael Parker, ond methodd Prestatyn fanteisio ar hynny trwy gydol y naw deg munud.

Y Gwŷr Dur yn hytrach sgoriodd unig gôl y gêm wedi ychydig llai na hanner awr diolch i ymdrech unigol dda Daniel Thomas.

Cafodd Prestatyn gyfle i unioni yn y munudau olaf ond arbedodd Craig Richards gic o’r smotyn Andy Parkinson.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Port Talbot i’r chweched safle tra mae Prestatyn yn disgyn un lle i’r trydydd safle.

(Torf: 147)

.

Bangor 0-1 Y Seintiau Newydd

Y Seintiau aeth â hi yng ngêm fyw Sgorio yn Nantporth nos Sadwrn. Sgoriodd Chris Jones i roi mantais gynnar i’r ymwelwyr ac er i Fangor reoli gweddill y gêm, fe ddaliodd y Seintiau eu gafael ar y tri phwynt.

(Torf: 737)