Fe fydd gwaharddiad ar arddangos sigaréts mewn siopau mawr yng Nghymru yn dod i rym heddiw.
Bwriad y gwaharddiad yw helpu pobl ifainc i osgoi’r demtasiwn a’u hatal rhag dechrau ysmygu.
Bydd yn rhaid i siopau mawr ac archfarchnadoedd gadw sigaréts a chynnyrch tybaco o dan y cownter ac allan o olwg.
Gall y rhai sydd ddim yn cydymffurfio wynebu dirwy o £5,000 neu hyd at ddwy flynedd yn y carchar.
Fe fydd na newid hefyd yn y ffordd mae prisiau yn cael eu harddangos – bydd y prisiau ar bapur plaen A3, heb unrhyw frandiau.
Daw’r gwaharddiad diweddaraf ar ôl i ystadegau ddatgelu bod 11% o fechgyn rhwng 15-16 oed ac 16% o ferched 15-16 oed yng Nghymru yn dweud eu bod yn ysmygu’n rheolaidd.
Mae’r gwaharddiad mewn grym ar gyfer siopau sydd yn fwy na 280 medr sgwâr ac fe fydd y gwaharddiad yn ymestyn i siopau llai ym mis Ebrill 2015.
Bydd rhaid i rai siopau hefyd arddangos prisiau cynnyrch tybaco ar bapur plaen A3 yn unig, heb luniau neu frandiau.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths mai eu bwriadu yw gostwng lefelau ysmygu i 16% erbyn 2020 gyda’r gobaith o greu Cymru ddi-fwg yn y pendraw.
“Ry’n ni’n gwybod bod pobl ifainc yn gallu cael eu dylanwadu wrth weld sigaréts yn cael eu harddangos, a’u bod yn demtasiwn i oedolion sy’n ceisio rhoi’r gorau i’r arfer.
“Rydyn ni’n gweld y gyfraith Newydd yma fel rhan bwysig o’n hymgyrch i daclo’r niwed sy’n cael ei achosi oherwydd ysmygu.
Er bod nifer o gyrff wedi croesawu’r gwaharddiad dywed gwerthwyr tybaco na fydd yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifainc, sy’n cael eu dylanwadu gan eu cyfoedion, tra bod Consortiwm Manwerthu Prydain wedi disgrifio’r newid fel un “gwallgof”.