Mae grŵp sy’n gwrthwynebu cau Eglwys Babyddol St Gwenffrewi yn Aberystwyth wedi cael ar ddeall bod cais i ddymchwel yr adeilad wedi cael ei dynnu’n ôl gan Esgobaeth Mynyw.

Mae’n ymddangos bod swyddogion adran cynllunio Cyngor Ceredigion wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r cais am fod yr adeilad mewn ardal gadwraeth.

Bydd yr Esgobaeth yn ystyried cyflwyno cais o’r newydd yn y flwyddyn newydd.

Bu’n rhaid cau’r eglwys i’r tri chant o blwyfolion ar ôl i yswiriant yr adeilad ddod i ben oherwydd cyflwr honnedig yr adeilad. Mae’r Esgobaeth yn dadlau nad oes modd atgyweirio’r lle ond mae’r plwyfolion yn anghytuno ac yn gwrthwynebu’r bwriad i godi eglwys newydd ar y cyrion, ym Mhenparcau.

Dywedodd Lucy Huws, un o’r ymgyrchwyr, bod arolwg gan gwmni Morton, oedd wedi’i gomisiynu gan Save Britain’s Heritage, wedi cadarnhau nad oes perygl mynd i mewn i’r adeilad, ac mai £600,000 fyddai’r gost o atgyweirio’r eglwys. Mae’r ymgyrchwyr yn dadlau bod modd codi hyn trwy grantiau a rhoddion.

Ar hyn o bryd mae’r plwyfolion yn gorfod addoli un ai yn neuadd yr eglwys, neu yng Nghanolfan y Morlan neu yn Ysgol Gatholig Aberystwyth.

Roedd tua chant yn y brif offeren y bore yma ac yn eu plith y Prifardd Dafydd John Pritchard.

“Does ganddo ni ddim dadl efo’r Esgob,” meddai. “O bosib mae wedi cael ei gam gynghori ar y mater yma. Beth fase ni’n ei hoffi fuasai cael trafodaeth efo’r Esgobaeth.”