Cymru 12–14 Awstralia

Torrwyd calonnau Cymru yn yr eiliadau olaf yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn wrth i Kurtley Beale ennill y gêm i Awstralia yn symudiad olaf y gêm.

Roedd cicio Beale wedi rhoi’r ymwelwyr ar y blaen ar yr egwyl ond tarodd Leigh Halfpenny a Chymru yn ôl yn yr ail gyfnod i roi’r tîm cartref ar y blaen wrth i’r chwiban olaf agosáu. Ond dwynodd Beale y fuddugoliaeth yn y funud olaf wrth groesi yn y gornel.

Mae’r canlyniad yn golygu na fydd Cymru yn wyth uchaf rhestr detholion y byd cyn i grwpiau Cwpan y Byd gael eu dewis ddydd Llun.

Hanner Cyntaf

Llwyr reolodd Awstralia’r deg munud agoriadol ond aros yn ddi sgôr wnaeth hi serch hynny wrth i Beale fethu cyfle cymharol hawdd at y pyst.

Fe ddeffrwyd y dorf gan rediad hir Alex Cuthbert wedi hynny cyn i Beale lwyddo gada’i ail gynnig at y pyst i roi mantais haeddianol i’r ymwelwyr.

Unionodd Halfpenny’r sgôr gyda chic wych o bellter cyn rhoi Cymru ar y blaen gyda thri phwynt arall.

Bu bron i’r cefnwr greu cais cyntaf y gêm gyda rhediad da hefyd ond llwyddodd Wycliff Palu i wneud gwaith amddiffyn da.

Yna llwyddodd Beale gyda dwy gic gosb arall i adfer mantais Awstralia cyn yr egwyl a methodd Halfpenny gyda chynnig at y pyst i Gymru.

Ail Hanner

Tri phwynt o fantais i Awstralia ar y egwyl felly ond dechreuodd Cymru’r ail hanner yn bwrpasol a doedd fawr o syndod gweld Halfpenny yn adfer y tri phwynt o fantais erbyn yr awr gyda dwy gic gosb lwyddiannus arall.

Ond wnaeth tîm Warren Gatland ddim dangos llawer o fenter yn chwarter olaf y gêm ac roeddynt braidd yn ffodus i eilydd giciwr Awstralia, Mike Harris, lithro wrth geisio cicio’i dîm yn gyfartal.

Ond fe gafodd Cymru eu cosbi yn y diwedd a hynny’n greulon braidd gyda symudiad olaf y gêm. Bylchodd Dave Dennis yn dilyn pas hir dda Berrick Barnes ac roedd sgoriwr holl bwyntiau Awstralia yn y gêm, Beale, wrth law i dirio.

Anafwyd Halfpenny yn ystod y symudiad hwnnw a bu oedi hir cyn i’r clo a’r capten, Nathan Sharp, anelu at y pyst yn ei gêm olaf dros ei wlad.

Doedd dim trosiad i Sharp i orffen ei yrfa ond nid oedd yn cwyno gormod wrth i’w wlad ddathlu buddugoliaeth funud olaf yn erbyn y Cymry.

Ymateb

Capten Cymru, Sam Warburton:

“Fe chwaraeon ni’n dda yn yr ail hanner yn erbyn Seland Newydd a chwarae’n dda heddiw ond yr un hen stori yw hi, methu ennill. Mae’n rhaid i ni ddechrau ennill, dwi ddim yn gwybod pam na allwn ni ddal ein gafael tan y diwedd…

“Dyw cystadlu gyda’r timau yma ddim digon da, mae’n rhaid i ni eu curo nhw.”

.

Cymru

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 19’, 24’, 55’, 60’

.

Awstralia

Cais: Kurtley Beale 80’

Ciciau Cosb: Kurtley Beale 16’, 27’, 37’