Treviso 32–13 Dreigiau

Cafodd y Dreigiau dipyn o gweir yn y RaboDirect Pro12 yn erbyn Treviso yn y Stadio Comunale di Monigo brynhawn Sadwrn.

Gorffennodd y rhanbarth o Gymru’r gêm gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn coch Will Harries, ac fe sgoriodd yr Eidalwyr bum cais wrth ennill y gêm yn gyfforddus.

Hanner Cyntaf

Er i’r Dreigiau gael dechrau da gyda chic gosb Prydie yn yr ail funud, dim ond un tîm oedd ynddi yn y deugain munud agoriadol.

Roedd Treviso ar y blaen wedi deg munud diolch i gais y mewnwr, Edoardi Gori, a throsiad y  maswr, Alberto di Bernardo.

Ymestynnodd di Bernardo’r fantais honno’n fuan wedyn gyda chic gosb cyn i Prydie ymateb gyda’i ail dri phwynt yntau.

Dim ond pedwar pwynt ynddi ar ôl y chwarter cyntaf felly ond ychwanegodd yr Eidalwyr ddau gais yn ail hanner yr hanner cyntaf.

Croesodd y canolwr, Christian Loamanu, i ddechrau ac yna’r asgellwr, Luke McClean, i roi mantais gyfforddus i’r tîm cartref ar yr egwyl er i di Bernardo fethu’r ddau drosiad.

Gorffennodd y Dreigiau’r hanner gyda Harries yn y gell gosb hefyd yn dilyn ei gerdyn melyn cyntaf bum munud cyn y chwiban.

Ail Hanner

Gyda’r Dreigiau i lawr i bedwar dyn ar ddeg o hyd fe sicrhaodd Loamanu bwynt bonws i’w dîm gyda’i ail gais ef o’r gêm, 25-6 i Treviso wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod.

Fe wnaeth Prydie roi llygedyn o obaith i’r Cymry ddeg munud yn ddiweddarach wrth dirio a throsi ei gais ei hun. Ond diflannodd unrhyw obaith ar yr awr pan dderbyniodd Harries ei ail gerdyn melyn a cherdyn coch.

Mater o amser oedd hi felly nes i’r Eidalwyr selio’r fuddugoliaeth gyda phumed cais, a daeth hwnnw i’r eilydd fewnwr, Tobias Botes, wyth munud o’r diwedd.

32-13 o blaid Treviso y sgôr terfynol felly, canlyniad sy’n cadw’r Dreigiau yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Pro12.

.

Treviso

Ceisiau: Edoardo Gori 9’, Christian Loamanu 25’, 42’, Luke McClean 39’, Tobias Botes 72’

Trosiadau: Alberto di Bernardo 9’, 42’

Cic Gosb: Alberto di Bernardo 12’

.

Dreigiau

Cais: Tom Prydie 52’

Trosiad: Tom Prydie 52’

Ciciau Cosb: Tom Prydie 2’, 15’

Cardiau Melyn: Will Harries 34’, 61’

Cerdyn Coch: Will Harries 61’